Mae gan Jonathan Garratt BSc (Anrh) Gwyddor yr Amgylchedd, Msc Rheoli Adnoddau Gwledig a Thystysgrif Dylunio Permaculture.
Mae wedi cael gwaith amrywiol ym maes cadwraeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth ac ymgynghoriaeth amgylcheddol. Mae wedi tyfu i fyny gyda gwenyn mêl, gan fynd allan i reoli’r cychod gwenyn gyda’i dad yn blentyn ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, ac yn y pen draw yn gofalu am y cychod gwenyn. Bu’n Arolygydd Gwenyn Tymhorol ar gyfer yr Uned Genedlaethol Gwenyn am 22 mlynedd rhwng 2001 a 2022. Mae wedi cynnal cyrsiau di-ri mewn cadw gwenyn ers blynyddoedd lawer, naill ai’n breifat neu drwy sefydliadau eraill megis Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, Cymdeithas Eryri, Prifysgol Bangor, y Ganolfan Technoleg Amgen a’r Ganolfan Sgiliau Coetiroedd. Mae gan Jonathan a’i wraig fusnes bach sy’n gwerthu cynnyrch mêl . Mae ganddo frwdfrydedd mawr ac mae’n mwynhau delio â gwenyn mêl a phryfed eraill a throsglwyddo ei sgiliau i eraill.



