Blog

Mae ein blog yn cynnwys newyddion a phethau eraill yr ydym wedi bod yn eu gwneud o amgylch y Farchnad, yn ogystal ag erthyglau diddorol ar fyw’n lleol ac yn gynaliadwy.

  • Plac Coffa Y Fron

    Dadorchuddiwyd plac y dynion o Ddyffryn Nantlle a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yng Nghanolfan y Fron ddydd Sadwrn Tachwedd 9fed 2024. Arweiniwyd y Gwasanaeth gan y Parchedig Marcus Robinson gyda cherddoriaeth gan Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ac yna cacen a phaned wrth gwrs.  Cefnogwyd y plac gan…

    Continue reading…

  • Syrcas Cimera wedi dod i’r Dyffryn Nantlle!

    Syrcas Cimera wedi dod i’r Dyffryn Nantlle!

    Cimera Circus comes to Dyffryn Nantlle!Wel son am hwyl a sbri fis Awst pan ddaeth Iago ac Adrian i berfformio a dysgu plant ag ambell oedolyn chydig o sgiliau syrcas! Hwla hwpio, jyglo platiau a llawer mwy! Tu allan i’r neuadd bu’r ddau yn brysur trwy’r bore a mawr ddiolch am eu gwaith caled.

    Continue reading…

  • Stondin Gacennau Y Caban a Phlac Coffa o’r Rhyfel Byd Cyntaf

    Stondin Gacennau Y Caban a Phlac Coffa o’r Rhyfel Byd Cyntaf

    Dechreuodd y siwrne gyda’r tri ohonom yn edrych ar y plac coffa a adleolwyd o dymchwel Capel Cesarea yng Nghanolfan Y Fron.  Pe bai cymaint wedi marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf o Fron, faint o chwareli Dyffryn Nantlle?  A gawsant nhw i gyd eu cofio? Roedd gan chwarelwyr lawer o sgiliau defnyddiol yn ystod…

    Continue reading…

  • Mae’r Farchnad bellach yn Gyfeillgar i Ddementia

    Mae’r Farchnad bellach yn Gyfeillgar i Ddementia

    Yn dilyn ymweliad DementiaActif Gwynedd i’r Farchnad ‘chydig yn ol, penderfynwyd cynnal sesiwn i fod yn Dementia Gyfeillgar. Daeth y Pwyllgor a staff o Trigonos ynghyd i ddysgu am y salwch difrifol yma a sut i roi cymorth i rai sydd wedi cael neu mynd trwy ddiagnosis. Diddorol dros ben a diolch i Lia am…

    Continue reading…

  • Cadw Gwenyn Gyda Gwenyn Prysur

    Cadw Gwenyn Gyda Gwenyn Prysur

    Mae gan Jonathan Garratt BSc (Anrh) Gwyddor yr Amgylchedd, Msc Rheoli Adnoddau Gwledig a Thystysgrif Dylunio Permaculture. Mae wedi cael gwaith amrywiol ym maes cadwraeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth ac ymgynghoriaeth amgylcheddol. Mae wedi tyfu i fyny gyda gwenyn mêl, gan fynd allan i reoli’r cychod gwenyn gyda’i dad yn blentyn ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, ac…

    Continue reading…

  • Blwch ailgylchu

    Blwch ailgylchu

    Rydym yn ailgylchu papur, cardfwrdd, plastigion a metal yn y Farchnad. Bellach mae ganddom blwch dal hên fatris, felly peidiwch a’u lluchio I’r bin sbwriel – dewch a nhw draw.

    Continue reading…

  • Cyfnewid defnydd a dafadd.

    Cyfnewid defnydd a dafadd.

    Yn dilyn llwyddiant y bwyrdd cyfnewid hadau a phlanhigion mis dwytha’, dyma benderfynnu cyfnewid dafadd a defnydd y mis yma. Daeth sawl un a bagiad o ddafadd sbar a defnydd ac yna mynd gartref hefo bagiad arall! Cyfle da i gael gwared o stwff dros ben.

    Continue reading…

  • Ein Anwen yn derbyn gwobr

    Ein Anwen yn derbyn gwobr

    Roeddem mor falch o Anwen yr wythnos diwethaf pan dderbyniodd wobr gan Mantell Gwynedd am yr holl waith gwirfoddoli a gwaith yn y gymuned y mae wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd. Anwen sy’n trefnu’r holl sesiynau blasu, y stondinau gwybodaeth a chodi arian yn ogystal â bod yn ysgrifennydd i ni, mae’n rôl wirfoddol.…

    Continue reading…

  • Planhigion a Hadau

    Planhigion a Hadau

    Ym Marchnad mis Mai rhoddwyd wahoddiad i drigolion ddod a’u planhigion a hadau i’w cyfnewid gydag eraill. Wendy o ‘Wendy’s Plants’ oedd yn rhedeg y bwrdd hefo cymorth Sion Howyn o GwyrddNi. Daeth Gemma o’r Orsaf draw i helpu plannu blodau haul hefo’r plant yn yr Ardd Gymunedol. Roedd yn ddiwrnod braf a rhan fwyaf…

    Continue reading…

  • Canu Carolau Nadolig

    Canu Carolau Nadolig

    Daeth Seindorf Arian Dyffryn Nantlle i’n diddanu yn y Farchnad Nadolig trwy chwarae cymysgedd o ganeuon Nadoligaidd a rhoi cyfle i ni gydganu carolau, gyda Fflur Pierce yn arwain y canu. Roedd yn Nadoligaidd iawn.

    Continue reading…