Ein Gwneuthurwyr

Bocs Sebon

Helo, fy enw i yw Gwyneth, a dwi’n fydwraig wedi ymddeol. O un llafur cariad i’r llall, mae fy musnes yn darparu sebonau cynaliadwy o ansawdd unigryw sy’n seiliedig ar blanhigion a phapur a chynhyrchion blodau wedi’u gwneud â llaw. Rwyf wedi bod ag angerdd at fyd natur ers fy mhlentyndod ac yn ymhyfrydu yn y lliwiau, y ffurf a’r cyferbyniad hardd sydd o’n cwmpas ym mhobman, mewn coed, blodau gwyllt, gweiriau a hadau. Sylweddolais, trwy sychu botaneg, fod modd cadw ac ailgylchu’r lliwiau a’r ffurfiau hyn ac felly dechreuais sychu blodau, perlysiau a hadau i ddod â lliw, gwead a moethusrwydd i’m holl gynnyrch. Yn y diwedd, daeth syniad o fusnes bach ecogyfeillgar a chynaliadwy yn fyw. Mae fy nghynnyrch yn 100% naturiol, diwastraff, di-blastig, cynaliadwy, wedi’i wneud â llaw, yn falch o ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu a botaneg gwastraff yn ogystal â blodau cartref, dail, glaswellt a hadau yn ein cynnyrch.  Mae’r busnes wedi’i ddatblygu yng nghanol cymuned cymreig ac felly mae’n falch o fod yn ddwyieithog.

Ffôn: 07932136164
www.bocssebon.cymru

Plains of Imagination

Mae Plains of Imagination yn cynhyrchu darnau brodwaith ar gyfer tu mewn a dillad.

Ar ôl hyfforddi yn Ysgol Frenhinol Gwniadwaith, graddiodd Bethany yn 2020 gyda gradd mewn brodwaith llaw ac angerdd am bob peth tecstilau a brodwaith.

Gyda’i chariad at anifeiliaid a natur sydd ond wedi cael ei gryfhau drwy ei symud i gefn gwlad Cymru; Ganwyd busnes Plains of Imagination Bethany. Gyda chyfres o natur fympwyol a dyluniadau darluniadol a chwareus sy’n seiliedig ar anifeiliaid, mae’n defnyddio ystod o dechnegau brodwaith i greu esthetig cyfoes.

Yn ogystal â’i chynnyrch masnachol, mae Bethany hefyd yn cynnig comisiynau, lle mae hi’n mwynhau meithrin perthynas yn fawr a gweithio’n agos gyda’i chleientiaid i greu eu darn pwrpasol ac unigryw perffaith.

https://www.plainsofimagination.co.uk/
plainsofimagination@gmail.com

Eirian Jones Muse “Helyg Lleu”

Rwyf yn cynhyrchu basgedi helyg o’m cartref yng Ngharmel, Dyffryn Nantlle. Maent yn unigryw ac wedi eu gwneud a llaw. Daw enw’r busnes o enw “Lleu” sy’n arwr mewn chwedl o bedwaredd gainc y Mabinogi. Credir i ‘r chwedl gael ei lleoli yn Nyffryn Nantlle.

Defnyddir pren helyg o ffynhonnell adnewyddadwy, gan eu cyfuno gyda defnyddiau Cymreig fel brethyn traddodiadol a chregyn mor i greu basgedi lliwgar a thrawiadol. Maent wedi cael eu dylunio er mwyn cael ei defnyddio, fel basgedi siopa, basgedi ar gyfer y beic,  i storio neu fel addurn. Cynnyrch cynaliadwy, biodiraddadwy ac adnewyddadwy.

Instagram: Helyg_Lleu   Eirian.muse@gmail.com
07766858731

Glitterbells

Yn cynnig tatŵ glitter, glitter wyneb yr ŵyl, tatŵau henna, ewinedd glitter, blew gwallt a mwy. Opsiynau parti ar gael.  

Cysylltwch â Julie:

07824 175336
juleshughes40@gmail.com 

Jordan Christina Photography

Mae Jordan yn ffotograffydd tirwedd, bywyd gwyllt a macro ac artist cyfryngau cymysg, gan ddefnyddio edafedd gwlân Cymreig, ffibrau a llechi i greu gweithiau celf o dirweddau Cymreig.

Mae Jordan yn gwerthu amrywiaeth o eitemau sydd â’i gwaith celf wedi’i argraffu arnynt yn ogystal â’i darnau gwreiddiol.

jordanchristinaphotography.co.uk JordanChristinaPhotography@outlook.com

Company name

Description

Email
Web address