Ein Tyfwyr

Marchnad ffermwyr ydym yn bennaf ac rydym am helpu tyfwyr lleol, gan gynnwys tyfwyr cymunedol, i gael y cyfle i ddod â’u cynnyrch i’r farchnad er mwyn i’r gymuned leol gael mynediad at lysiau, ffrwythau, cig ac wyau maethlon iawn a dyfir yn lleol. Os ydych yn dyfwr cysylltwch â: marchnadlleu@yahoo.com.

Trigonos

Mae stad 18 erw Nantlle yn cynnwys dolydd, coetiroedd bychain, nant yn rhedeg i lawr at y llyn, cae ar gyfer tyfu llysiau, saladau a ffrwythau i’n cegin a lle i grwydro neu eistedd yn dawel.

info@trigonos.org
trigonos.org

Henbant

Cartref a fferm yw Henbant; mae’n eco-system helaeth, ffyniannus sy’n cynhyrchu bwyd go iawn tra hefyd yn adeiladu bioamrywiaeth, pridd, incwm, gwytnwch, a chymuned ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n bleserus i bawb sy’n gweithio, yn byw ac yn ymweld. Rydyn ni’n profi bod byd harddach yn bosibl ac rydyn ni’n annog eraill i wneud yr un peth.

matt@henbant.org
henbant.org

Flowers from the Mountain

Mae Flowers from the Mountain yn gweithio’n galed i gynhyrchu dim ond y gorau mewn blodau wedi’u torri’n ffres a blodau sych, trwy drefniant, sypiau neu fwcedi. Rydym yn gwneud blodau ar gyfer pob achlysur er enghraifft priodasau ac angladdau. Ein gwefan yw: https://www.flowersfromthemountain.co.uk/ a’r manylion cyswllt yw:

flowersfromthemountain.co.uk
blodaugraifflowers@mail.com
07772258276

Planhigion Wendy

Mae Wendy yn tyfu amrywiaeth eang o blanhigion cadarn (a dyfir yn y tywydd Cymreig) am bris fforddiadwy iawn.

Cysylltwch â hi ar:

Wendyjones358@aol.com

Blodeuwedd Botanics

Mae Blodeuwedd Botanics yn brosiect gardd gymunedol sy’n gwerthu ystod eang o blanhigion perlysiau a phlanhigion tymhorol eraill. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 07799 224636 neu dewch o hyd i ni ar FB:

https://www.facebook.com/BlodeuweddBotanics/

Tyddyn Teg

info@tyddynteg.com
Tyddyn Teg