Rydym yn grŵp brwdfrydig o bobl ac wedi penderfynu sefydlu Marchnad Lleu yn dilyn trafodaethau am addasu i newid hinsawdd yn lleol gyda XR Dyffryn Nantlle cyn Covid ac wedyn yng Nghaffi Trawsnewid Yr Orsaf a sefydlwyd yn 2022 trwy Gynulliad Hinsawdd Gwynedd – Gwyrddni.
Roeddem yn teimlo bod cysylltu â’r cyhoedd yn rheolaidd yn flaenoriaeth, ond sut y gallem gael mynediad at bobl?
Felly beth well na marchnad fisol yn helpu tyfwyr lleol , gwneuthurwyr a chynhyrchwyr i werthu ac arddangos bwyd maethlon yn lleol, cynhyrchion bwyd a chrefftau i bobl leol, mynd i’r afael â diogelwch bwyd a materion iechyd, yr economi gylchol a chynaliadwyedd.
Gwnaethom greu’r grŵp a sefydlu cyfrif banc, a’n marchnad gyntaf oedd ym mis Mai 2023, ac yn awr maent bob mis. Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau Arian Loteri Cymunedol ar gyfer ein gwefan ac i ariannu sesiynnau blasu.
Ein Pwyllgor:
Cadeirydd—Gwyn Edwards
Is-Gadeirydd – Nigel Williams
Ysgrifennydd—Anwen Harman
Trysorydd—Michelle Makatah
Aelodau’r Pwyllgor:
Iechyd a Diogelwch—Gwyneth Thomas
Caffi Tylluan—Gwyneth Thomas
Cynrychiolydd Cymunedol—Nigel Williams
Gweithgareddau Plant—Jane Winch
Dyma ni:

