Stondinau Gwybodaeth

Adra

Daeth Swyddog Lles ADRA draw i gynnig cymorth a chefnogaeth.  Darparwr cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Maen’t yn gofalu am bron i 7,000 o gartrefi ac yn cynnig gwasanaethau i dros 16,000 o gwsmeriaid.Eu nod yw fod rhain yn fforddiadwy a dibynadwy. Maen’t yn cynnig cymorth hefo budddaliadau, lleihau biliau ynni; trais yn y cartref, byw’n ddiogel yn yr ardal, cefnogaeth i rai bregus.

https://www.adra.co.uk/en/

Cyngor ar Bopeth

Roedd Eiriona o Cyngor ar Bopeth yn barod i rannu gwybodaeth a chyfeirio pobol i gael y cymorth priodol gan y gymdeithas yma – sydd am ddim, yn annibynnol,cyfrinachol a ddiduedd.Maen’t ar gael i helpu hefo budddaliadau; gwaith; ynni; arian a dyled; materion defnyddwyr; tai, cyfraith a chwrt, iechyd, tai; mewnfudiad.

www.cabgwynedd.wales/contact/ neu galw 08000241220.

Neu’r gwefan genedlaethol: https://www.citizensadvice.org.uk/wales/

Community Catalysts

Daeth Fran Lowden atom o brosiect newydd Catalyddion Cymunedol sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd.

“Weithiau mae angen cefnogaeth ar bobl i fyw eu bywydau. Gall y cymorth sydd ei angen arnynt orbwyso’u sgiliau. Mae’r gwastraff hwn o dalent yn brifo’r person, ei gymuned a’i gymdeithas. Rydyn ni’n helpu pobl i freuddwydio a gwneud i bethau ddigwydd. Rydym yn helpu sefydliadau lleol i greu’r amodau y gall pobl ddilyn eu breuddwydion.”

www.communitycatalysts.co.uk neu ffoniwch Cyngor Gwynedd a gofyn am y rheolwr Catalyddion Cymunedol.

Digital Gwynedd

Mae Gwynedd Ddigidol yn gweithio yng Ngwynedd i gefnogi dysgwyr gyda sgiliau digidol, hyder, dyfeisiau a phecynnau data ar gyfer y rhai mewn angen. Ariennir y gwaith hwn gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. Gallwch e-bostio gwyneddddigidol@citizensonline.org.uk

St John’s Ambulance

Daeth Ryan o Ambiwlans Sant Ioan i ddysgu Sgiliau Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng a bu’n brysur iawn trwy’r bore yn ateb cwestiynau. Ar ol y sesiwn trefnwyd i Glwb Peldroed Talysarn gael cwrs ganddo.

Cysylltwch â communitytraining@sjacymru.org neu y wefan  www.sja.org.uk

Y Bont

Sgwn i faint sy’n gwybod am y gwaith sy’n mynd ymlaen yn Y BONT ym Mhenygroes? Croesawyd Magi, Rheolwr Swyddfa i’r Farchnad i rannu gwybodaeth am eu gwaith hefo plant, pobol ifanc a theuluoedd. Mae na ystod eang o wasanaethau yn mynd ‘mlaen yno ac roedd Magi yn cyfeirio pobol i’r darpariaeth mwyaf addas.

www.bont.org.uk

Yr Orsaf

Bu Greta, Yr Orsaf yn rhannu gwybodaeth am yr holl brosiectau cymunedol sydd ganddynt ar y gweill.

Llond Bol; Pantri Cymunedol, Garddio Gyda’n Gilydd, Clwb Clebran Cymraeg, Be Nawn Ni, Caffi Trwsio.

www.yrorsaf.cymru
07529 224989

Diogelwch y Ffordd, Gwynedd

 Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd, Cyngor Gwynedd yn cynnig amryw o wahanol sesiynau i ddisgyblion Ysgol Gynradd e.e. seiclo, sach stori Carys Ofalus, kerbcraft ayb; yn ogystal ag amrywiaeth o sesiynau i Ysgolion Uwchradd.  Mae’r Uned hefyd yn cynnig hyfforddiant Pass Plus Cymru i unigolion sydd wedi pasio eu prawf ag sydd rhwng 17 a 25 oed.  Hefyd mae’r Uned yn gyfrifol am amryw o ymgyrchoedd diogelwch y ffyrdd e.e. gwrth yfed a gyrru.  

https://www.roadsafetywales.org.uk/home

Cymorth i Ferched Cymru

Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom.

info@livefearfreehelpline.wales

Website:
Welsh Women’s Aid

Dementia Actif

Daeth Emma Quaeck i rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol a all gefnogi pobl gyda dementia, gofalwyr, aelodau o’r teulu a ffrindiau. Gobeithio y gallwn gynnal Marchnad Dementia Gyfeillgar yn y dyfodol.

https://www.dementiaactifgwynedd.cymru/index.php

dementiaactif@gwynedd.llyw.cymru

Atal Strôc

Mis yma daeth Tîm Atal Strôc o Fwrdd Iechyd Lleol hefo bwrdd rhannu gwybodaeth. Roeddent yn mesur pwysau gwaed a churiad calon ac, ar ol chydig o gwestiynau, yn bwydo’r wybodaeth I’r cyfrifiadur a rhoi adborth. Allan o’r 18 person aeth atynt, roedd 6 yn y ‘coch’ ac mewn peryg o gael stroc. Diolch yn fawr iddynt am ddod draw.

Tîm Atal Ysmygu

Roedd Jo-Anna o’r Bwrdd Iechyd Ardal yn y brif neuadd gydag amrywiaeth o daflenni gwybodaeth a chynigiodd help i atal yr arfer peryglus o ysmygu. Mae digon o gymorth a gwybodaeth ar gael yn eich meddygfeydd, clinigau ac ar eu gwefan.

Dyma’r neges anfonodd ar ol ei bore prysur.

“I can confirm I spoke to 21 people, signed up one client, and several others took information for family or friends who may want to quit.”

Diolch am ddod draw atom i drio cael pobol i stopio.