Rhagflas a Siarad

Nod ein sesiynau blasu a siarad yw cyflwyno pobl i sgiliau a gwybodaeth newydd, dydych chi byth yn gwybod i ble y gallai diddordeb gael ei danio ac i ble y gallai arwain— hobi newydd, busnes newydd, moment bwlb golau. Dewch draw i ddarganfod, mae rhywbeth gwahanol bob mis. Hyd yn hyn rydym wedi cynnal:

Adar Pen y Bryn efo Islwyn

Daeth Islwyn o ‘Adar Ysglyfaethus Gogledd Cymru’ draw o Gorwen, i arddangos a sgwrsio am ei adar. Roedd yn brysur trwy’r bore, yn blant ag oedolion (oddeutu 30) yn dod i mewn ag allan i holi a chael tynnu llyniau hefor’r tylluanod. Roedd un dylluan – Eryr yn anferth ac os cai ddweud yn codi ofn arnai! Sesiwn arbennig o ddiddorol a dwi’n siwr fod pawb wedi dysgu lot.

Helyg Lleu gyda Eirian Muse

Cafwyd sesiwn arbennig o dda gan Eirian Muse o Helyg Lleu. Bu 12 yn brysur yn plygu helyg a’i wehyddu i siapiau Nadolig – seren, coed Dolig, ceirw – ew mi oedd ‘na lafurio ond pôb un wan jac yn browd iawn o’u cynnyrch. Mae Eirian yn brysur iawn yn tyfu a pharatoi yr helyg ar gyfer ei gweithdai ac yn gwerthu ei chynnyrch yn ein Marchnad yn fisol. Diolch iddi am rannu ei sgil.

Eplesu Llysiau

Claire Mace fu’n brysur yn dangos sut i eplesu llysiau ar gyfer eu gadw at y Gaeaf. Sgwrs hyndod ddiddorol a chyfle i’w holi a blasu’r bwydydd. Rhannodd daflen o resipis ar y diwedd. https://fermentations.co.uk/fermented-vegetables-at-home-a-step-by-step-guide/

Gwneud Papur Bocssebon

Dawnsio Salsa

Vale Animal Encounters

Hyfforddiant Diffibriliwr gyda Dafydd Monks

Gallai diffibriliwr yn eich gweithle, cymuned neu ysgol achub bywyd os bydd rhywun yn cael ataliad y galon. Mae yna ychydig o bethau y dylech chi eu gwybod cyn gosod un. Esboniodd a dangosodd Dafydd sut i ddefnyddio diffibriliwr yn effeithiol ac yn ddiogel, a sut i fynd i mewn i’r bocs i’w ddefnyddio.

Mwy o wybodaeth ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon: https://www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life/defibrillators

Gwneud Ffyn

Bu Mel Morris o Gymdeithas Ffyn Gogledd Cymru yn arddangos hen grefft draddodiadol o wneud ffyn – rhai coed a chorn, bugail, bawd a cherdded. Roedd ganddo resi o’i ffyn i’w harddangos a bu’n dangos y broses o wneud ffon o’r cychwyn i’r diwedd. Mae’r Clwb yn cyfarfod ail Sadwrn o’r mis yn Nhy Elidir Deiniolen.

Ymarfer Yoga hefo Nicole Le Maire

I gychwyn y flwyddyn newydd daeth Nicole Le Maire draw i gynnal sesiynau Yoga – un tra’n eistedd ar gadair a’r ail un arferol. Siwr fod rhai yn gwingo wrth ymestyn cyhyrau!

Mae dosbarth Yoga gan Michelle yng Nghanolfan Y From fore Mawrth a nos Iau.

Sgwrs: Gwyddoniaeth Hinsawdd i Ddechreuwyr

Rhoddodd Michelle sgwrs fer ddiddorol iawn ar sut a pham mae allyriadau carbon deuocsid wedi cynyddu’n aruthrol ers dechrau’r chwyldro diwydiannol. Eglurwyd data hinsawdd fel bod pobl yn gallu deall goblygiadau llosgi tanwydd ffosil yn barhaus. Dyma ddolen i’r llyfryn a ddosbarthwyd yn ystod y sesiwn.

Addurniadau Gwyrdd

Daeth Wendy i gynnal sesiwn gwneud torch i roi ar drws, a lot fawr o   siarad a chwerthin tra’n creu. Gwnaethpwyd 28 ohonynt, pob un yn lliwgar hefo orennau, gwahanol wyrddni, sinamon ayyb. Pawb yn browd iawn o’u gwaith caled.

Cyfnewid Gwisg Ysgol

Anfonwyd ebost i pob ysgol yn Nyffryn Nantlle i roi gofod yn y Farchnad i gyfnewid gwisg ysgol. Hefo costau byw yn cynyddu, mae’n gyfle gwych i gael gwisg i’ch plenty at fis Medi. Er mai dim ond dwy ysgol ddaeth yna, cafod sawl rhiant eu plesio. Gobeithio y daw mwy o ysgolion yna flwyddyn nesaf.

Adweitheg Llaw

Mae adweitheg yn seiliedig ar yr egwyddor bod pwyntiau atgyrch (reflex points) penodol ar y traed a’r dwylo yn cyfateb a wahanol rannau o’r corff. Mae’r traed a’r dwylo yn fap bach ac yn ddrychddelwedd o’r corff. Bydd Anwen yn dangos symudiadau i chi a chyffyrddiadau ysgafn ar eich dwylo i annog y corff i adfer cyflwr o gydbwysedd ac ymlacio. Dyma ei gwefan: https://www.troedio.cymru/

Gwneud da-das

Roedd y sesiwn yma yn dangos pa mor hawdd ydi gwneud da-das hefo plant ac fel anrheg hyfryd at y Nadolig neu Sul y Mamau ayyb.

Rhowch rhai mewn bocsus bach, potiau a powleni gwydr hefo rhuban. Gellir eu gwerthu i godi arian i’ch ysgol leol!

Yvonne oedd yn arddangos sut I wneud Cyffug Siocled, Da-da Cnau-coco, Da-da Peppermint, Ser Mintys.  Gweithgaredd o hwyl a ffordd dda o ddysgu plant fesur, pwyso a rhannu.

Makaton

Yn y stafell fach roedd gweithdy Makaton ac Arwyddo dan ofal Ceri – difyr iawn a hwyliog a hedfan wnaeth yr awr. Cawsom ddiweddu’r sesiwn trwy arwyddo dwy gan – Yma o Hyd oedd un ohonynt. Diolch i Hannah o’r Groeslon am helpu Ceri (a ni!) Bydd Ceri yn cychwyn cwrs Makaton yn y Galeri yn y flwyddyn newydd – sgil arbennig o dda i bawb ei gael i gyfathrebu.

Ffeltio Gwlyb

Cafwyd cyfle i ffeltio gwlyb a gwneud madarch. Wel son am hwyl a chwerthin a pôb un yn browd iawn o’u cynnyrch. Diolch i Nicole am gynnal y sesiwn.

Sgiliau Gwnio

Daeth Anwen a’i pheiriant gwnio i geisio helpu creu eitemau: cynheswyr dwylo, masgiau llygaid hefo lafant, bagiau neges, sosij atal drafft, trwsio hem ayyb.