Postiwyd ar

Ein Anwen yn derbyn gwobr

Roeddem mor falch o Anwen yr wythnos diwethaf pan dderbyniodd wobr gan Mantell Gwynedd am yr holl waith gwirfoddoli a gwaith yn y gymuned y mae wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd. Anwen sy’n trefnu’r holl sesiynau blasu, y stondinau gwybodaeth a chodi arian yn ogystal â bod yn ysgrifennydd i ni, mae’n rôl wirfoddol. Dyma hi gyda’i thystysgrif a dderbyniodd mewn seremoni ym Mhortmeirion.