Stondinau elusen

Bob mis mae gennym ni “stondin y mis”, stondin am ddim rydyn ni’n ei rhoi i elusen lle maen nhw’n gallu codi arian i’w helusen a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn maen nhw’n ei wneud.

RNLI

Mae criwiau bad achub yr RNLI yn amddiffyn cannoedd o gymunedau ledled y DU ac Iwerddon trwy ein gwasanaeth chwilio ac achub 24 awr. I wneud hynny, maent yn dibynnu ar y cychod achub mwyaf diogel a mwyaf dibynadwy a gorsafoedd modern i lansio ohonynt. Daeth gwirfoddolwyr o’r RNLI i’r Farchnad i werthu Nwyddau’r RNLI, roeddent mor hapus gyda’r ymateb. Dysgwch fwy am wirfoddoli trwy eu gwefan:

rnli.org

Epilepsy Action

Daeth Jan draw roi gwybodaeth a dangos ffiliau byr ar y gwahanol fathau o epilepsy a sud i ddelio hefo person yn cael ‘ffit’. Cafwyd sesiwn holi ddiddorol ar y diwedd. Roedd bwrdd codi arian yn y neuadd hefyd. Ewch are u tudalen FB: Epilepsy Action Caernarfon.

epilepsy.org.uk

Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle

Mae Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle yn adnodd ddiwyllianol pwysig yn y Dyffryn ers 1865 – yr enw adeg hyny oedd ‘Penyrorsedd Band’. Y band oedd un o’r bandiau pres cyntaf i adeiladu ei ystafell fand bwrpasol ei hun. Wedi’i leoli yn Nhalysarn ac mae’r band yn codi arian i atgyweirio a diweddaru eu hadeilad hanesyddol.

facebook.com

1St Caernarfon Guides, Brownies and Rainbows

Mae sawl merch o’r Dyffryn yn aolodau o’r grwpiau yma yng Nghaernarfon yn dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Tombole teddis roedd eu stondin codi arian.

Ewch ar wefan girlguiding.org.uk am fwy o wybodaeth.

Clwb Strôc Môn ac Arfon

Mae sawl un o Ddyffryn Nantlle yn defnyddio’r Clwb Strôc Môn ac Arfon yn cael cludiant i Fangor am ginio a sgwrs. Adnodd wych! Roeddent yn codi arian trwy werthu tombola gyda pôb person yn cael anrheg cudd. Syniad arbennig o dda.

stroke.org.uk

Siop Galwch Acw

Mae’r siop yng Nghaernarfon ac mae oll o’r crefftau yn cael eu gwneud gan oedolion sydd hefo A.D.Y. Galwch mewn am banad a gweld y cynnyrch tymhorol arbennig.

facebook.com

Cyfeillion Talysarn a Nantlle

Grwp cymunedol pentrefi Talysarn a Nantlle

FB: https://www.facebook.com/groups/875917896942243/

Mae Antur Waunfawr yn fenter gymunedol a ddarperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion unigolion ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

https://www.anturwaunfawr.org./cymru

Ebost: swyddfa@anturwaunfawr.cymru

Samariaid

Daeth gwirfoddolwyr o Samariaid Gwynedd draw hefo Tombola Siocled i godi arian tuag at y gwasanaeth arbennig yma. Roedd un wedi dod a ci gwrando ac yn atyniad mawr i’w hymdrechion codi arian. Maen’t yn cynnig cefnogaeth a gwrando ar bobol a chymunedau  mewn amseroedd anodd. Mae’r Samariaid yn hyfforddi eraill i helpu mewn ysgolion, ysbytai, carchardai ac yn y system rheilffordd. Mae pob hunan-laddiad yn drychineb ac mae’r Samariaid yn brwydro i oresgyn hyn trwy weithio’n ddiflino i gyrraedd mwy o bobl a gwneud atal hunanladdiad yn flaenoriaeth.

Cwmni Cwtin

Grwp wedi’I ffurfio i godi arian i wella safon y cae chwarae apel droed  Cwtin yn ‘West End’ ym Mhenygroes. Daeth Eluned yr ysgrifennyddes a’i gwr i werthu tocynnau raffl. Gwobrwyau gwerth chweil ar gael ac ar ddiwedd y bore ‘roedd y prynwyr yn disgwyl yn eiddgar am y canlyniadau!

Clwb Pel Droed Celts Talysarn

Ein bwrdd codi arian mis yma oedd Clwb Peldroed Talysarn. Bu Rhian a’I mherch yn gwerthu tocynnau raffl, gwerthu nwyddau’r Clwb – hetiau, scarffiau, a da-das yn atyniad mawr I’r plant! Gobeithio eich bod wedi gwneud elw da at eich tîmau.