Stondinwyr

Dewch i gwrdd â’n stondinwyr, mae gennym amrywiaeth eang o Dyfwyr, Gwneuthurwyr a Chynhyrchwyr yn y Farchnad ac rydym yn anelu at gael stondinau gwahanol ym mhob Marchnad, a dim ond £10 y stondin. Os hoffech gael stondin ebostiwch marchnadlleu@yahoo.com.

Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi sefydliadau, elusennau a chymdeithasau lleol a chenedlaethol drwy gynnig byrddau am ddim i roi’r cyfle i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n mynd ymlaen yn y Dyffryn a thu hwnt. Ym mhob marchnad mae gennym stondin Codi Arian o’r enw “Stondin y Mis” y gall elusen ei defnyddio i godi arian a stondin Gwybodaeth lle gall sefydliadau hysbysebu a chynnig eu gwasanaethau, mae’r rhain am ddim. Os ydych yn elusen neu’n sefydliad ac yn dymuno cael stondin am ddim e-bostiwch anwenharman@btinternet.com.

Cyfarfod ein stondinau