Cysylltwch â Ni

Stondinwyr

Os ydych chi’n ddarpar stondinwr ac yn awyddus i archebu stondin e-bostiwch: marchnadlleu@yahoo.com neu anfonwch neges atom ar Facebook. Bydd pecyn stondinwyr yn cael ei e-bostio a dylid ei gwblhau cyn y Farchnad.

Mae stondinau yn £10 gan gynnwys bwrdd os oes angen, mewn misoedd tawel fel Ionawr a Chwefror y gost yw £5. Bydd yr arian yn mynd yn ol i’r Farchnad.

Rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i dyfwyr a chynhyrchwyr bwyd, ac yna i grefftwyr a gwneuthurwyr yn enwedig y rhai sy’n cael eu gwneud â deunyddiau lleol. Rydym yn derbyn stondinau eraill ond mae’n rhaid bod ganddynt athroniaeth gynaliadwyedd.

Hoffem leihau pecynnu plastig i’r lleiafswm, felly byddem yn ddiolchgar os yw’n fforddiadwy, bod y deunydd pacio yn fioddiraddadwy ac yn cael ei gadw i’r lleiafswm posibl.

Elusennau a Sefydliadau

Os ydych yn elusen a hoffai stondin codi arian neu fudiad a hoffai stondin wybodaeth, yna cysylltwch ag Anwen, drwy e-bostio: anwenharman@btinternet.com. Mae gennym argaeledd cyfyngedig ond gallwn eich rhoi ar y rhestr aros.

Blasu a Sgyrsiau

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud sesiwn ar grefft, sgil, rhoi sgwrs neu unrhyw beth y gallai fod gan bobl ddiddordeb ynddo i ddysgu am, anfonwch e-bost at anwenharman@btinternet.com, mae gennym arian i dalu am hyn.

Gwirfoddoli

Os hoffech wirfoddoli ar gyfer y farchnad mewn unrhyw rinwedd mae croeso mawr i chi ymuno â ni. Byddem yn croesawu cymorth yn y gegin a chlirio byrddau , help gyda stiwardio stondinwyr, help gyda gosod, help gyda sgwrsio a chroesawu cwsmeriaid ac unrhyw help gyda phethau technegol a gweinyddol. Cysylltwch ag Anwen neu Michelle os oes gennych chi ddiddordeb, o awr i gymaint ag y gallwch chi ei spario, e-bostiwch anwenharman@btinternet.com, neu marchnadlleu@yahoo.com.